Cael Cymorth Nawr

.png)
999
Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, neu'n poeni am oedolyn neu blentyn a allai fod mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar 999.
Datrysiadau Tawel - Symudol
Os oes angen i chi ffonio'r heddlu ond nad yw'n ddiogel i chi siarad, gallwch ffonio 999, aros am gwestiynau'r gweithredwr ac yna ymateb trwy besychu neu dapio'r set law. Os gofynnir i chi wneud hynny, pwyswch 55. Mae'n bwysig eich bod yn gwrando ar y cyfarwyddiadau ac yn pwyso 55 pan ofynnir i chi wneud hynny gan fod hyn yn rhoi gwybod i'r gweithredwr eich bod angen cymorth gan yr heddlu. Bydd yr alwad yn dod i ben os na fyddwch yn pwyso 55 neu'n ymateb pan ofynnir i chi wneud hynny.
Datrysiadau Tawel - Llinell Dir
Os ydych chi'n ffonio 999 o linell dir ac nad yw'n ddiogel i chi siarad, os canfyddir sŵn cefndir, bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo i'r heddlu. Bydd ffonio 999 o linell dir yn rhoi gwybodaeth i'r heddlu am eich lleoliad.
Mewn Argyfwng
Os ydych chi am roi gwybod am unrhyw fath o gam-drin domestig ac nad yw'n argyfwng, ffoniwch 101. Mae rhagor o wybodaeth am roi gwybod am gam-drin domestig ar gael yn Sut i roi gwybod am gam-drin domestig | Heddlu Dyfed-Powys
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n poeni amdano wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos yn rhad ac am ddim ar 0808 80 10 800.
