CarmDAS has been providing independent, specialist support to individuals
and families affected by domestic abuse and sexual violence since 1978. We
continue to applaud the survivors who have reached out for support this year
with the courage to take that first step to share their story.


CarmDAS prides themselves on delivering a high-quality trauma informed and
strength-based services and finding new ways to meet the ever-increasing
demand for the service. In 2021-22 CarmDAS achieved the WWA Quality
Standard which was specifically developed for the domestic abuse sector to
accredit service delivery and recognise best practice. In 22/23 CarmDAS were
delighted to hear they had passed the midpoint review and are continuing to
deliver a service of good standard with good governance.


The charity in 22-23 rose to the challenge to not only to maintain the charities
core services but to find new funds and opportunities to expand our services
and to work collaboratively with partners across Mid and West Wales.


We returned to being fully office-based in 2022 offering flexible support both on
line or in person to meet the needs of survivors. Survivors can face many
emotional, practical or financial barriers when seeking help for domestic abuse
and sexual violence so by offering more face-to-face appointments we hoped
to provide more opportunities to build trusting relationships in a safe and
confidential space.

carmdasimpactreport22-23english.pdf

Mae CarmDAS wedi bod yn darparu cymorth annibynnol, arbenigol i unigolion
a theuluoedd y mae camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt
oddi ar 1978. Rydym yn parhau i gymeradwyo’r goroeswyr sydd wedi estyn
allan i gael cefnogaeth eleni ac sy'n meddu ar y dewrder i gymryd y cam cyntaf
hwnnw i rannu eu stori.


Mae CarmDAS yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn darparu gwasanaethau o
ansawdd uchel sy’n ystyriol o drawma ac sy’n seiliedig ar gryfderau, ac o
ganfod ffyrdd newydd o ateb y galw cynyddol am y gwasanaeth. Yn 2021-22,
cyflawnodd CarmDAS Safon Ansawdd Cymorth i Fenywod Cymru a
ddatblygwyd yn benodol ar gyfer y sector camdriniaeth ddomestig i achredu
darpariaeth gwasanaethau a chydnabod arferion gorau. Yn 2022-23 roedd
CarmDAS yn falch iawn o glywed ei fod wedi pasio’r adolygiad canolbwynt ac
yn parhau i ddarparu gwasanaeth o safon dda sy'n cael ei lywodraethu'n dda.


Ymatebodd yr elusen i'r her yn 2022-23, nid yn unig o ran cynnal
gwasanaethau craidd yr elusen, ond hefyd trwy ddod o hyd i gronfeydd a
chyfleoedd newydd i ehangu ein gwasanaethau ac i gydweithio â phartneriaid
ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.


Dychwelwyd i weithio'n gyfan gwbl o'r swyddfa yn 2022 gan gynnig cymorth
hyblyg ar-lein neu wyneb yn wyneb i ddiwallu anghenion goroeswyr. Gall
goroeswyr wynebu llawer o rwystrau emosiynol, ymarferol neu ariannol wrth
geisio cymorth ar gyfer camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, felly trwy
gynnig rhagor o apwyntiadau wyneb yn wyneb roeddem yn gobeithio darparu
rhagor o gyfleoedd i feithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth mewn man diogel a
chyfrinachol.

carmdasimpactreport22-23welsh.pdf